acyfeiriad at Salm 110:1
dDeuteronomium 32:43 (LXX); Salm 97:7
eSalm 104:4 (LXX)
gSalm 102:25-27 (LXX)

Hebrews 1

Y Mab yn bwysicach na'r angylion

1Yn y gorffennol pell roedd Duw wedi siarad gyda'n hynafiaid ni drwy'r proffwydi. Gwnaeth hyn bob yn dipyn ac mewn gwahanol ffyrdd. 2Ond bellach, yn y cyfnod olaf hwn, mae wedi siarad â ni drwy ei Fab. Mae Duw wedi dewis rhoi popeth sy'n bodoli yn eiddo iddo fe – yr un oedd gyda Duw yn gwneud y bydysawd. 3Mae holl ysblander Duw yn disgleirio ohono. Mae e'n dangos i ni'n berffaith sut un ydy Duw. Ei awdurdod pwerus e sy'n dal popeth yn y bydysawd gyda'i gilydd! Ar ôl iddo ei gwneud hi'n bosib i bobl gael eu glanhau o'u pechodau, cafodd eistedd yn y nefoedd, yn y sedd anrhydedd ar ochr dde y Duw Mawr ei hun. a 4Roedd wedi ei wneud yn bwysicach na'r angylion. Roedd y teitl roddodd Duw iddo yn dangos ei fod yn bwysicach na nhw.

5Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed:

“Ti ydy fy Mab i;
heddiw des i yn dad i ti” b?

Neu hyn:

“Bydda i'n dad iddo fe,
A bydd e'n fab i mi” c?

6Ac wrth i Dduw ddod â'i fab hynaf yn ôl i'r byd nefol i'w anrhydeddu, mae'n dweud:

“Addolwch e, holl angylion Duw!” d

7Pan mae Duw'n sôn am angylion mae'n eu disgrifio fel:

“negeswyr sydd fel gwyntoedd,
a gweision sydd fel fflamau o dân.” e

8Ond am y Mab mae Duw'n dweud hyn:

“Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth,
a byddi'n teyrnasu mewn ffordd gyfiawn.
9Rwyt yn caru beth sy'n iawn ac yn casáu drygioni;
felly mae Duw, ie dy Dduw di, wedi dy eneinio di,
a thywallt olew llawenydd arnat ti fwy na neb arall.” f
10A hefyd,
“O Arglwydd, ti osododd y ddaear yn ei lle ar y dechrau cyntaf,
a gwaith dy ddwylo di ydy popeth yn yr awyr.
11Byddan nhw'n darfod, ond rwyt ti'n aros;
byddan nhw'n mynd yn hen fel dillad wedi eu gwisgo.
12Byddi'n eu rholio i fyny fel hen glogyn;
byddi'n eu newid nhw fel rhywun yn newid dillad.
Ond rwyt ti yn aros am byth –
dwyt ti byth yn mynd yn hen.” g

13Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed?:

“Eistedd yma yn y sedd anrhydedd
1:13 yn y sedd anrhydedd Groeg, “ar yr ochr dde i mi”

nes i mi wneud i dy elynion blygu
fel stôl i ti orffwys dy draed arni.” i

14Dim ond gweision ydy'r angylion. Ysbrydion wedi eu hanfon i wasanaethu'r rhai fydd yn cael eu hachub!

Copyright information for CYM